Mae Prifysgol De Cymru yn defnyddio ystod o fformatau cyfryngau digidol i gyhoeddi cynnwys dysgu, addysgu ac ymchwil gan ein hacademyddion a'n staff cynorthwyol ac i arddangos ein myfyrwyr. Rydyn ni'n cynhyrchu podlediadau sain, fideo ac animeiddio; e-lyfrau safonol a llyfrau rhyngweithiol datblygedig; cyrsiau blasu a chyflwyno ar-lein am ddim; a blogiau hefyd.
Rydyn ni'n falch o fod y brifysgol gyntaf (a'r unig un) yng Nghymru i osod cynnwys ar iTunes U — llwyfan poblogaidd gan Apple sy'n rhad ac am ddim ac sy'n darparu cyrsiau nad ydynt yn achrededig i fyfyrwyr ledled y byd.
Drwy iTunes U gallwch ymrestru ar ystod eang o gyrsiau gan brifysgolion, amgueddfeydd a sefydliadau byd-eang o'ch iPad. Mae arlwy Prifysgol De Cymru yn cynnwys 'Introduction to Global Governance' ac un o 'Gyrsiau Eithriadol' Apple — 'Basics of Computer Programming'.
Yn wreiddiol, roedd iTunes U hefyd yn cynnwys podlediadau i'w gwylio neu i wrando arnynt gan brifysgolion, amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol ledled y byd i'w llwytho i lawr a'u chwarae ar gyfrifiadur PC/Mac neu ddyfais iOS. Yn hydref 2017, symudwyd y cynnwys yma i Apple Podcasts.
Ymhlith ein podlediadau, mae cynnwys addysgol ar draws ystod eang o bynciau, ynghyd â gwybodaeth am y brifysgol a'i chyfadrannau, a bywyd fel myfyriwr. Yn y podlediadau 'Student Showcase' gallwch hefyd weld enghreifftiau cyffrous o waith ein myfyrwyr.
Mae ein llyfrau rhyngweithiol sy'n torri tir newydd ar gael am ddim yn yr iBooks Store. Maent wedi cael llawer o ganmoliaeth ac yn cael eu defnyddio gan lawer o brifysgolion eraill.
Mae'r adnoddau yn iTunes U ac Apple Podcasts yn rhad ac am ddim, a gellir eu llwytho i lawr heb fewngofnodi â chyfrif iTunes, felly does dim angen prynu gan Apple i ddefnyddio'r deunyddiau.
Ar eich cyfrifiadur neu liniadur (PC a Mac)
Os nad ydych chi wedi defnyddio iTunes o'r blaen, gallwch weld trosolwg o ap iTunes a'r siop ar-lein gan Apple.
Os yw'r ap iTunes eisoes gennych chi ar eich cyfrifiadur, yna gallwch agor yr ap Podcasts ar frig y ddewislen pan rydych yn yr iTunes Store:
Ar eich dyfais ffôn Apple iOS (iPhone, iPad, iPod Touch)
Gall defnyddwyr dyfais symudol Apple iOS (iPhone, iPad, iPod Touch) ddefnyddio'r ap Podcasts i ddod o hyd i bodlediadau a'u llwytho i lawr. Mae'r ap Podcasts wedi'i osod ar bob dyfais iOS yn awtomatig. Os ydych chi wedi dileu'r ap Podcasts, yna gallwch lwytho'r ap Podcasts i lawr eto (am ddim) o'r App Store.
Er mwyn cael mynediad at gyrsiau iTunes U, mae angen dyfais Apple iOS arnoch (iPhone, iPad, iPod Touch) sydd ag ap iTunes U arni. Os nad yw hwn wedi'i osod ar eich dyfais iOS eisoes, gallwch lwytho'r ap Itunes U i lawr (am ddim) o'r App Store.